Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1. Cytuno
i barhad trefn llywodraethu ranbarthol Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y flwyddyn bontio
2025/26 gan awdurdodi’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r
Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr - i
gadarnhau’r trefniadau
2. Cytuno
i barhau trefniadau llywodraethu lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas
Gyfunol yng Ngwynedd ar gyfer y flwyddyn bontio 2025/26.
3. Cytuno
bod pob cynllun yng Ngwynedd yn derbyn arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
wireddu dwy egwyddor, sef:
a. Bod
ymdrech fwriadol i sicrhau fod arian SPF a’r budd yn deillio ohono yn elwa
cymunedau a thrigolion ym mhob rhan o Wynedd.
b. Bod
ymdrech fwriadol i annog gweithgareddau (a sefydliadau) nad ydynt wedi derbyn
arian yn flaenorol gael mynediad i gymorth)
4. Cytuno
i esblygu ac addasu gweithgareddau o ymhlith prosiectau presennol a’u hymestyn
ar gyfer y flwyddyn drosiannol, yn unol ag egwyddor Llywodraeth y Deyrnas
Gyfunol bod cyllid 2025/26 y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn estyniad o’r cyfnod
2022/24 i 2024/25 sy’n pontio i drefn ariannu newydd.
5. Gofyn
i’r Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynlluniau unigol
sydd dan ystyriaeth ar gyfer dyraniad Gwynedd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin,
gan gyflwyno argymhelliad yn ôl i’r Cabinet ar y dyraniadau unigol.
6. O
fewn y gyllideb £7,900,000, cytunwyd i barhad pedair cronfa (gyda chyfanswm
cyllideb cychwynnol oddeutu £2.29 miliwn) i ddosbarthu symiau llai o arian
Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r sir gan awdurdodi parhad
tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 08/04/2025
Dyddiad y penderfyniad: 08/04/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/04/2025 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: