Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Mae 1 ymhob 4 dynes ac 1 ymhob 6 dyn wedi
dioddef camdriniaeth rhywiol yn ystod eu plentyndod, a gall y ffigwr yna fod yn
uwch fyth.
Nid yn unig bod y profiadau yma yn erchyll
iddynt ar y pryd, ond maent yn gorfod byw gydag effeithiau’r troseddau ofnadwy
yma gydol eu hoes.
Mae dioddefwyr camdriniaeth rhywiol yn dweud
yn gyson nad oes digon o gefnogaeth ar gael iddynt, ac nad oes ymwybyddiaeth
ddigonol o’r trawma maent yn ei gario bob dydd, am byth.
Mae Mai 1af yn ddiwrnod blynyddol i gofio am
y dioddefwyr; i godi ymwybyddiaeth o’r drosedd ddychrynllyd yma, ac i’n
hatgoffa y gall camdriniaeth rhywiol ddigwydd i unrhyw blentyn, mewn unrhyw
gymuned. Nid yw camdriniaeth rhywiol yn
adnabod gwahaniaethau diwylliannol, cymdeithasol, ieithyddol, crefyddol,
rhywedd na hil. Gall ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un.
Not My Shame yw’r grŵp ymgyrchu sydd yn
trefnu’r digwyddiad blynyddol yma, ac mae’n cynnal munud o dawelwch ar y
dyddiad hwn bob blwyddyn i gofio poen dioddefwyr camdriniaeth rhywiol drwy’r
byd.
Galwn ar Gyngor Gwynedd i adnabod y dyddiad
yma bob blwyddyn o hyn allan, ac i’w fabwysiadu’n ddiwrnod i gofio am
ddioddefwyr. Galwn ar y Cyngor i hedfan
baner yr ymgyrch uwch ei bencadlys ar Fai 1af bob blwyddyn er mwyn datgan yn
glir nad cywilydd y dioddefwr yw camdriniaeth rhywiol, ond cywilydd y
troseddwr. Galwn ar Gyngor Gwynedd
i dynnu sylw cyhoeddus ar Fai 1af bob blwyddyn at y gefnogaeth sydd ar gael i
ddioddefwyr, ac i esbonio wrth y cyhoedd sut a ble y gallent adrodd am
gamdriniaeth rhywiol neu am bryderon diogelwch plant.
Dyddiad cyhoeddi: 01/05/2025
Dyddiad y penderfyniad: 01/05/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/05/2025 - Y Cyngor