Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Rhesymau
- Byddai'r safle cabanau a'r gwaith
cysylltiedig, oherwydd eu nifer, lleoliad, dyluniad, gosodiad agwedd yn y
dirwedd, cynnydd yn yr arwynebedd lleiniau caled, yn arwain at nodwedd
amlwg ac ymwthiol o fewn cefn gwlad agored gan gael effaith niweidiol ar y
dirwedd a mwynderau gweledol yr ardal wledig ynghyd ac arwain tuag at
ormodedd o safleoedd parhaol yn yr ardal leol. Mae'r bwriad felly yn groes
i feini prawf 1.i a ii. o bolisi TWR 3 a pholisi
PCYFF 3, o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf
2017) a Chanllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau.
- Byddai graddfa'r bwriad yn creu symudiadau gormodol ar hyd y
ffordd sirol gyfochrog a chynnydd mewn gweithgareddau gan greu sŵn ac
aflonyddwch er niwed i amwynder preswylwyr lleol. Felly, ystyrir bod y
cynnig yn groes i bolisi PCYFF 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn (Gorffennaf 2017).
- Nid oes gwybodaeth ddigonol ar ffurf manylion
am leoliad a maint y maes draenio ynghyd â chanlyniadau profion trylifiad
mewn cyswllt â’r System Trin Carthffosiaeth bwriedig.
Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi ISA 1 o’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) sy’n sicrhau darpariaeth
isadeiledd digonol.
- Nid oes gwybodaeth ddigonol sy’n cynnwys
arolwg geoffisegol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais, ac felly ni ellir
dod i gasgliad ynglŷn â chydymffurfiaeth y bwriad gyda pholisi AT4
o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) sy’n
diogelu safleoedd archeolegol nad ydynt wedi’u dynodi a’u gosodiad.
Dyddiad cyhoeddi: 29/09/2025
Dyddiad y penderfyniad: 29/09/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/09/2025 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: