Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, ac argymell i’r Cabinet fabwysiadu Opsiwn 1 yn yr adroddiad fel y model darparu a gweithredu gorau ar gyfer y Gwasanaeth Teithiol Llyfrgelloedd i’r dyfodol, sef:

 

Cam 1

Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 3 cerbyd llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-

1. Arfon

2. Dwyfor

3. Meirionnydd

 

Cam 2

Yn dilyn ymddeoliad gyrrwr yn y 1-2 flynedd nesaf, Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 2 gerbyd llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-

1. Arfon / Dwyfor

2. Meirionnydd

 

Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2021

Dyddiad y penderfyniad: 15/04/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/04/2021 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Dogfennau Cefnogol: