Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.1 Nodwyd y
sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2020/21.
1.2 Cymeradwywyd y symiau
i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant
Addasedig” o’r
talfyriad yn Atodiad 1), sef –
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
(100) |
Plant a Theuluoedd |
0 |
Addysg |
(100) |
Economi a Chymuned |
(100) |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
0 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth Gwynedd |
(64) |
Tai ac Eiddo |
(75) |
Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(100) |
Cyllid |
(86) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(100) |
1.3 Cymeradwywyd yr
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u
egluro yn Atodiad
2) –
·
Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth
ariannol un-tro o £1,261k i
ddiddymu y gorwariant yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn
ymwneud â’r argyfwng eleni. Fel bod modd i’r adran symud ymlaen i wynebu
her 2021/22.
·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at
y drefn arferol i ganiatáu
i'r Adran Addysg gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£159k) sef y
swm
uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario
yn
2020/21.
·
Caniatáu i’r Adran Tai ac Eiddo drosglwyddo (£848k)
cynnal a chadw corfforaethol i gronfa cynnal a chadw i ariannu'r gwariant i'r
dyfodol.
·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol argymhellir cadw at
y drefn arferol i ganiatáu y Tim Rheoli Corfforaethol
a Chyfreithiol gadw (£100k) o'i danwariant, gan symud (£6k) sef y swm uwchlaw
(£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adran sydd wedi gorwario yn 2020/21.
·
Ar gyllidebau Corfforaethol:
¾ defnyddio (£926k)
o’r tanwariant net Corfforaethol i gynorthwyo'r Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.
¾ fod (£2,047k) cynlluniau cyfalaf sydd i'w hariannu o refeniw i'w
trosglwyddo i gronfa i alluogi ailbroffilio'r adnodd.
¾ fod £600k yn cael ei ryddhau o falansau
cyffredinol y Cyngor.
¾ (£4,000k) yn cael ei neilltuo i gronfa Trawsffurfio y Cyngor i gefnogi
gwaith trawsffurfiol ac o natur un-tro.
¾ (£2,519k) yn cael ei neilltuo i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil
Covid19.
1.4 Cymeradwywyd y
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a amlinellir
yn Atodiad 4 yn
dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£170k) o gronfeydd i gynorthwyo’r
Adran Plant sydd wedi gorwario yn 2020/21.
Dyddiad cyhoeddi: 18/05/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/05/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/05/2021 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: