Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Bod y Cyngor
hwn yn edrych ar frys ar y Cynllun Datblygu Lleol (basiwyd 28.7.2017) gyda
golwg i’w adolygu a’i ddiweddaru o ran polisïau cynllunio a’r iaith
Gymraeg. Byddai’n ddymunol rhoi
blaenoriaeth neilltuol i hyn, heibio yr hyn a nodwyd fel yr amser monitro
arferol o fewn y Cynllun ei hun, a chyflwyno cynigion sy’n cyfateb i adroddiad
Dr Simon Brooks “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” a
gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn y
Pandemig a’r ffaith na fydd yna Wylfa B, disgwylir y bydd cyfarfod o’r
fath yn cyfarch y newidiadau
angenrheidiol sydd eu hangen i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cymru, Cymru sydd
yn fwy cyfartal a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Felly, yn
wyneb yr argyfwng tai a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bod
rhaid symud ar frys i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol; bod y broses yma’n
cymryd sylw llawn o farn aelodau a’r gymuned, a bod y Cyngor yn symud ymlaen
cyn gynted ag y bo’r modd i baratoi’r Adroddiad Adolygu, a chyflwyno Cytundeb
Cyflawni gerbron y Cyngor. Hefyd, bod y
Cyngor yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i bwyso am gael
hawl gweithredu ar amserlen fyrrach.
Dyddiad cyhoeddi: 28/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 28/06/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/06/2021 - Y Cyngor
Dogfennau Cefnogol: