skip to main content

Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Gwrthod y cais

 

  1. Mae’r bwriad yn un sydd yn agored iawn i niwed ac sydd wedi ei leoli oddi fewn i barth llifogydd C1.  Nid yw’r bwriad yn rhan o strategaeth adfywio neu strategaeth gan yr awdurdod lleol nag ychwaith yn cyfrannu at amcanion cyflogaeth allweddol sy’n cael eu cefnogi gan yr awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill.  Nid yw’r bwriad ychwaith wedi ei leoli ar dir a ddatblygwyd o’r blaen ac mae’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd gyda’r cais wedi  methu dangos fod risgiau a chanlyniadau llifogydd yn gallu cael ei reoli i lefel derbyniol.  Nid yw’r bwriad felly yn cwrdd gyda’r gofynion cyfiawnhad a geir ym mharagraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol Cymru : Datblygiad a Pherygl o Lifogydd ac yn sgil hynny mae hefyd yn groes i ofynion Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

  1. Nid yw’r cynnydd yn y niferoedd arfaethedig o garafanau gwyliau sefydlog yn fach, nac yn gydnaws a graddfa’r gwelliannau a fwriedir i’r safle ac mae uwchlaw’r cynnydd o 10% argymhellir i’r niferoedd gwreiddiol ar y safle, felly yn groes i egwyddorion pwynt 4 o bolisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a’r Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.

 

  1. Ni roddwyd ystyriaeth ddigonol i faterion tirweddu fel rhan o’r cynnig.  Yn sgil hyn ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at gynnal neu wella’r tirwedd a bod y bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/07/2021

Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/07/2021 - Pwyllgor Cynllunio

Dogfennau Cefnogol: