Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig a atodir ar y sail eu bod yn fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd.

 

Cymeradwywyd costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â £67,620 o gyllideb refeniw ychwanegol  un tro eleni o’r Gronfa Trawsffurfio.  Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r gweithrediad yn cyfarch blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid' am £75,620 o gyllideb refeniw parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â chyflwyno’r GDMC.

 

Dyddiad cyhoeddi: 27/07/2021

Dyddiad y penderfyniad: 27/07/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/07/2021 - Y Cabinet

Dogfennau Cefnogol: