Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Wedi edrych ar y cais yn ofalus iawn, a gan ystyried Polisi
Indemniad Cyngor Gwynedd, a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd
i’r pwyllgor, bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr aelod i’w hysbysu nad yw’r
Pwyllgor Safonau mewn sefyllfa i gynnig indemniad iddo mewn perthynas â
chynrychiolaeth gyfreithiol yng ngwrandawiad y Pwyllgor Safonau. Mae’r achos
mae’r cynghorydd yn amddiffyn yn ymwneud yn llwyr â’i rôl fel Cynghorydd Cyngor
Tref. Byddai unrhyw benderfyniad yn effeithio ar y rôl honno’n unig, ac ni
fyddai’n cael unrhyw effaith ar rôl y cynghorydd fel aelod o Gyngor Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 26/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 26/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/10/2021 - Pwyllgor Safonau