Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd
Tachwedd 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf
parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
·
Nodwyd fod effaith ariannol Covid
yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a
llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i
ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.
·
Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn parhau, ond nad
yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen arbedion.
·
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni.
·
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau
ariannol canlynol ar gyllidebau Corfforaethol, fod:
¾
Tanwariant o (£20k) yn ymwneud â chostau cyfalaf
yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.
¾
Tanwariant net o (£1,846k) ar gyllidebau
Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i
wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad
i’r argyfwng Covid.
Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: