Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag
at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22 a blynyddoedd blaenorol.
Nodwyd fod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y
rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a
bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.
Wrth baratoi cyllideb 2022/23, yn unol â’r hyn a nodir yn
Atodiad 3 o ran cynlluniau arbedion 2022/23: - cydnabod fod y sefyllfa bellach
wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £489,750
gan eu dileu o’r gyllideb, sef
·
Adolygiad Dechrau i'r Diwedd (Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd) gwerth £279,750
·
Trosglwyddo meysydd chwarae i eraill (Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol) gwerth £210,000
¾
symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau
gwerth £1,290,250 i 2023/24 a blynyddoedd dilynol
¾
nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y
cynlluniau gweddilliol i’w tynnu o gyllideb 2022/23, fel a nodir yn Atodiad 3.
Dyddiad cyhoeddi: 18/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 18/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: