Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gwrthod
Rhesymau:
- O ganlyniad i’r newidiadau i’r cynllun nad yw’n cael eu adlewyrchu
yn y datganiad cymysgedd tai a’r diffyg gwybodaeth o ran prisiad, ni ystyrir fod y bwriad gerbron yn ei
gyfan-rwydd yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau TAI 8 o’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 a CCA Cymysgedd Tai o ran
cyfiawnhau’r cymysgedd a ddarperir, na polisïau PS18 a TAI 15 o’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 a CCA Tai Fforddiadwy o ran
cyfiawnhau arwynebedd llawr yr unedau fforddiadwy a sicrhau fod yr unedau
yn fforddiadwy am byth o ran pris.
- Ystyrir y byddai’r bwriad, oherwydd agosatrwydd y tai a lleini
caled bwriedig, yn debygol o gael effaith andwyol ar iechyd a dyfodol y
gwrych a fyddai’n cyfrannu at golli rhannau sylweddol o’r gwrych ar y ffin
orllewinol ac y byddai hyn yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymeriad
yr ardal ac felly mae’r bwriad yn groes i ofynion meini prawf 2 a 3 o
bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o
ran parchu cyd-destun y safle ac ymgorffori tirlunio meddal pan fo hynny’n
briodol, a meini prawf 3, 4 a 6 o bolisi PCYFF 4 o’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ran parchu ac amddiffyn golygfeydd
lleol ac unrhyw nodweddion naturiol cadarnhaol sy’n bodoli a rhoi cyfiawnhad
dros amgylchiadau lle nad oes modd osgoi tynnu/colli coed neu wrychoedd.
- Mae’r bwriad yn golygu darparu datblygiad lloriau caled, a
gweithgareddau atodol i’r tai megis parcio a gerddi yn union ar y ffin ar
gyfer ardaloedd gwarchod gwreiddiau coed sydd wedi eu dynodi yn goetir
hynafol ac wedi eu gwarchod o dan Gorchymyn Gwarchod Coed ac i’r perwyl
hyn, ystyrir y
byddai’r bwriad yn debygol o gael effaith andwyol ar y coed a
warchodir ac fod y bwriad yn groes i ofynion maen prawf 8 o bolisi PS19 o'r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 gan nad yw’r bwriad yn sicrhau cadw
neu wella coed, gwrychoedd a choetiroedd o werth.”
Dyddiad cyhoeddi: 31/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 31/01/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 31/01/2022 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: