Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Addasu Adran 13 Rhan 2 y Cyfansoddiad drwy ddileu’r swyddogaethau canlynol o
gylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: “adolygu a chraffu ar
faterion yn ymwneud â gweithrediad mewnol y Cyngor megis strategaethau corfforaethol,
partneriaethau, ymgysylltu , trawsnewid busnes, trefniadau effeithlonrwydd a’r
gweithlu a’r swyddogaethau a gyflawnir gan yr Adran Gyllid, yr Adran Gefnogaeth
Gorfforaethol a’r Tîm Arweinyddiaeth.”
2. Addasu Rhan 7 o’r Cyfansoddiad yn unol ag
Atodiad 1 i’r adroddiad i osod y cyfrifoldebau a nodir gyda’r Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi.
3. Derbyn er gwybodaeth yr addasiadau i
Adran 13 – Rhan 2 o’r Cyfansoddiad, Aelodaeth a Chyfrifoldebau Cabinet.
Dyddiad cyhoeddi: 23/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 23/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/06/2022 - Y Cyngor
Dogfennau Cefnogol: