Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o
lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion). Newidiodd hyn ar Nos Sul Mehefin 5ed gyda ein
Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau
terfynol y Gystadleuaeth yma.
Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm
Cenedlaethol ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol. Mae’r Cyngor hefyd yn llongyfarch Cymdeithas
Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth Cenedlaethol Cymreig o fewn y tîm
i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r
Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl
Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru,
ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed
Cymru DIOLCH.
Yn ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd pob mantais o’n presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i
hyrwyddo Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y llwyfan byd-eang yma.
Dyddiad cyhoeddi: 23/06/2022
Dyddiad y penderfyniad: 23/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/06/2022 - Y Cyngor