Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Derbyniwyd cymeradwyaeth ar gyfer
model cyflawni'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) ar gyfer swyddogaethau
statudol.
Cymeradwywyd y strwythur staffio
cychwynnol a nodir yn Atodiad 2 o’r adroddiad.
Cytunwyd i ddirprwyo awdurdod i
Brif Weithredwr dros dro y CBC, mewn ymgynghoriad â Gwasanaeth Adnoddau Dynol
Cyngor Gwynedd, ac yn unol â Datganiad Polisi Tâl y Cyd-bwyllgor Corfforedig,
ac mewn perthynas â’r swyddi Cynllunio a Thrafnidiaeth i:
·
Gwblhau'r Swydd Ddisgrifiadau angenrheidiol ar
gyfer y swyddi
·
Gadarnhau'r raddfa gyflog sydd wedi'i harfarnu
·
Hysbysebu a recriwtio i'r swyddi
Cymeradwywyd trosglwyddo'r gyllideb staffio trafnidiaeth
sy'n weddill sy'n cyfateb i 1 x Swyddog Trafnidiaeth FTE a gymeradwywyd ym mis
Ionawr i gostau sy'n gysylltiedig â gofynion ymgynghorol y broses Cynllunio
Trafnidiaeth Ranbarthol.
Cytunwyd i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig
dderbyn papur yn y dyfodol i argymell opsiwn a ffafrir er mwyn cyflawni
swyddogaeth 'Llesiant Economaidd', a fydd yn cynnwys yr opsiwn i drosglwyddo
staff sy'n gysylltiedig â Swyddfa Portffolio gyfredol Uchelgais Gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 24/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 24/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/03/2023 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd
Dogfennau Cefnogol: