Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNIAD 1.1 Nodwyd
sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2022/23. 1.2 Cymradwywyd
symiau i’w cario ‘mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad
yn Atodiad 1), sef:
1.3 Cymeradwywyd
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn
Atodiad 2): ·
Yn yr Adran Addysg, fod £1,304k o gostau
ychwanegol chwyddiant trydan a chyflogau cymorthyddion a staff gweinyddol yn
yr ysgolion sydd uwchlaw’r gyllideb yn cael eu cyllido o falansau’r ysgolion
unigol. ·
Yn yr Adran Tai ac Eiddo fod £2,482k o’r
Gronfa Premiwm Treth Cyngor yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r pwysau
ychwanegol yn y maes Digartrefedd. ·
Cymorth ariannol o £550k i’r Adran Economi a
Chymuned gan fod sgil effaith Covid wedi amharu ar lefelau incwm Cwmni Byw’n
Iach. ·
Yr adrannau canlynol sydd yn gorwario i
dderbyn cymorth ariannol un-tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario
‘mlaen gan yr Adran i £100k: a.
£3,785k – Oedolion, Iechyd a Llesiant b.
£2,434k – Priffyrdd a Bwrdeistrefol ·
Ar gyllidebau Corfforaethol: a.
Defnyddio (£2,851k) o’r tanwariant net
Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23. b.
Fod (£3,899k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn
cael ei neilltuo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf c.
Gyda gweddill y tanwariant net o (£952k) ar
gyllidebau Corfforaethol yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio i
gyllideb blaenoriaethau’r Cyngor. 1.4 Cymeradwyo’r
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3
yn dilyn adroddiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£3,918k) o gronfeydd a’i
ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn
2022/23. |
Dyddiad cyhoeddi: 13/06/2023
Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/06/2023 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: