Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1. Derbyn yr adroddiad ar y diweddariad cynnydd ar y gwaith
i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac ymateb i'r tasgau sy'n ofynnol
gan ei swyddogaethau statudol (Atodiad 1 i’r adroddiad).
2. Derbyn y cynllun wedi'i ddiweddaru ynghyd â'r dyddiad diwygiedig o’r 1af o Dachwedd ar gyfer
trosglwyddo Cynllun Twf Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
3. Cymeradwyo’r trefniadau interim i ryddhau amser y
Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr
Dros Dro a’i ymestyn hyd at 31 Hydref, 2024. (Bydd yr holl gostau cyflogaeth a
chostau cysylltiedig yn parhau i gael ei dalu gan CBC y Gogledd).
4. Gofyn am adroddiad pellach ar gynnydd yn y broses
drosglwyddo a monitro o'r amserlen.
Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2024
Dyddiad y penderfyniad: 21/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/06/2024 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd
Dogfennau Cefnogol: