Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod
cyfnod ymgysylltu cyhoeddus a chadarnhawyd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 dyddiedig 1
Medi 2024 sydd ddim yn dod i rym yn uniongyrchol (Atodiad 2 o’r adroddiad) ar
gyfer y defnyddiau canlynol, yn unol a’r Rhybudd Cyhoeddus:
a.
Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail
gartref) neu C6 (llety tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol
b.
Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety
tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol
c.
Newid defnydd o C6 (llety tymor byr) i C5 (ail
gartref) a defnyddiau cymysg penodol
2.
Hysbysu’r sawl a effeithir yn unol â gofynion y
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel
y diwygiwyd) ac awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i amodi’r
penderfyniad ar y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
3.
Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn
ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau
golygyddol i’r rhybudd cyhoeddus cyn ei gyhoeddi.
Dyddiad cyhoeddi: 16/07/2024
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2024 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: