Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Cymeradwywyd
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth.
2.
Awdurdodwyd
i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y
Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno a llunio cytundeb ariannu gyda
Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer cyflawni’r prosiect, ar y sail bod
Grŵp Llandrillo Menai yn mynd i’r afael yn foddhaol â’r ‘materion sy’n
weddill’ a nodir yn adran 7.1 yr adroddiad.
3.
Dirprwywyd
cymeradwyaeth derfynol y caffaeliad sy’n weddill yng Ngham 1 i’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran
151 a’r Swyddog Monitro lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau'r Achos
Busnes Llawn a gyflwynwyd.
4.
Dirprwywyd
awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr
Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gymeradwyo’r Achos
Cyfiawnhad Busnes dilynol ar gyfer Cam 2 y prosiect, y bedwaredd is-ganolfan
lle mae gwariant a buddion o fewn paramedrau’r Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 20/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/09/2024 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru