Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

1.     Argymhellwyd cyflwyno ‘Datganiad gweledigaeth Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’, ‘Amcanion SMART’ ac ‘Themâu trawsbynciol’ i CBC y Gogledd er mwyn eu mabwysiadu a’u cynnwys yn ‘Achos Dros Newid y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol’ a ‘Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft Gogledd Cymru’.

 

2.     Nodwyd prif ddyddiadau cerrig milltir ar gyfer cyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chyfarwyddo gwaith pellach i gyflawni’r prif gerrig milltir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

3.     Nodwyd Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drafft y mae’n rhaid ei baratoi i gefnogi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac i argymell unrhyw ystyriaethau ychwanegol y dylid eu cynnwys.

 

4.     Nodwyd bydd y swyddog arweiniol yn uwch swyddog â chyfrifoldeb am drafnidiaeth ym mha bynnag Awdurdod a gynrychiolir trwy’r Cadeirydd etholedig. Cadarnhawyd bydd y swyddog arweiniol hwn yn gweithredu fel cyswllt rhwng y Grŵp Trafnidiaeth Ymgynghorol a’r Is-bwyllgor hwn.

 

Dyddiad cyhoeddi: 01/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 01/10/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/10/2024 - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol CBC y Gogledd

Dogfennau Cefnogol: