Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor Llawn, mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26:

 

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (hy. Dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

·       Bod Cyngor Gwynedd, yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm o 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

 

Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2024

Dyddiad y penderfyniad: 26/11/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/11/2024 - Y Cabinet

Dogfennau Cefnogol: