Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Cymeradwyo’r
Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Anturiaethau Gyfrifol, yn amodol ar
gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi,
yn ogystal â Zip World yn
ymdrin â’r materion a osodwyd yn yr Adroddiad.
2.
Gofyn am adroddiad pellach i gyfarch tri
pryder penodol cyn gwahodd Cynllun Busnes Llawn ar gyfer y prosiect
Anturiaethau Cyfrifol, a gwahodd y cwmni
i gyfarch y rhain o fewn cyfnod o 3 mis; yn benodol:
·
Darparu Cynllun Buddion Lleol wedi datblygu
yn dilyn ymgysylltu gyda’r cymunedau lleol;
·
Paratoi
Strategaeth ac egwyddorion gweithrediadol i’r e-fws;
·
Darparu
Adroddiad cynnydd ar y Cynllun Ymgysylltu
3.
Dirprwyo’r gymeradwyaeth derfynol o’r
manylebau caffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol i’r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151
a’r Swyddog Monitro cyn dechrau caffael.
4.
Awdurdodi’r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a’r Swyddog
Monitro, i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn, i’w cymeradwyo
gan y bwrdd Uchelgais Economaidd fel sail ar gyfer y trefniadau ariannu
terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfiol sail y Llythyr Cynnig Grant a
gaiff ei gytuno gan y Bwrdd ar y cam Achos Busnes Llawn.
Dyddiad cyhoeddi: 14/02/2025
Dyddiad y penderfyniad: 14/02/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/02/2025 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru