Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1.
Derbyn
yr adroddiad ar y Rhaglen Waith yn amodol fod statws RAG pob tasg o fewn y
Rhaglen Waith yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru erbyn y cyfarfod nesaf, a gofyn
i’r Grŵp Swyddogion Gweithredol ail-edrych ar ffurf y tabl pan fydd y
Cyfarwyddwr Rhaglen mewn lle.
2.
Cadarnhau
y bwriad i ail-hysbysebu swydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes.
3.
Cymeradwyo’r
Cynllun Trosiannol.
4.
Awdurdodi’r
Corff Atebol i ymrwymo i brydles ar swyddfa yng Nghanolfan Fusnes Conwy yn unol
â’r adroddiad, a chytuno â thelerau eraill yn unol â chyngor Pennaeth Eiddo’r
Corff Atebol, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Cyllid
Statudol.
Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 18/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/10/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Dogfennau Cefnogol: