Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynwyd
gan Iwan Prys Jones
TRAFODAETH
Trafodwyd
yr Arolwg Gwefru gan SP Energy gan nodi eu bod yn gobeithio y bydd modd iddynt
ddod i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi diweddariad.
O ran datgarboneiddio mynegwyd y byddai’n syniad da i’r 6
rhanbarth ddod ar ei gilydd i drefnu Uwch Gynhadledd ar hyn y flwyddyn nesaf,
ac y buasai yn cefnogi gwaith y Bwrdd Uchelgais. Os yn ymuno a’i gilydd yn
rhanbarthol i’r drefnu mynegwyd y byddai cefnogaeth ar gael gan Lywodraeth
Cymru.
Ychwanegwyd y byddai llawer o gyfleoedd ac ei fod yn gyfle
i weithio gyda’i gilydd. Mynegwyd mai’r brif broblem yw trafnidiaeth. Ategwyd
fod angen chwyldro a mynegwyd fod cynnal Uwchgynhadledd am roi datganiad clir
i’r cyhoedd. Nodwyd fod angen mynd a’r cynnig i’r Bwrdd Uchelgais i gael yr
Uwchgynhadledd a fydd yn trafod Ynni, Hwb / Cwmni Ynni Rhanbarthol ynghyd a
Thrafnidiaeth.
O ran prosiect Peilot Bysiau Gwyrdd nodwyd y cynlluniau
peilot gan nodi eu bod yn gobeithio rhannu’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf i
gael trafodaeth bellach.
Dyddiad cyhoeddi: 19/11/2019
Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/09/2019 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth