Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
- Nodi Achos busnes Partneriaeth Pensiwn
Cymru Addas i’r Dyfodol (Atodiad 3, Atodiad 4 ac adran 4 o’r adroddiad)
- Cymeradwyo ffurfio endid corfforaethol
sy’n berchnogaeth llwyr i Awdurdodau Gweinyddu PPC a fydd yn cael ei
adnabod yn Gwmni Rheoli Buddsoddi PPC (IMCo.) a'r holl gamau eraill sy'n
angenrheidiol i gyflwyno cais i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ar gyfer
awdurdodi'r cwmni gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddewis a
recriwtio Swyddogaethau Uwch Reolwyr (SMF) fel sy'n ofynnol gan yr FCA a
pharatoi a chyflwyno'r cais i'r FCA. (Adran 5 o’r adroddiad)
- Cymeradwyo Cynllun Busnes a chyllideb
ddiwygiedig PPC 2025/28 sy'n cynnwys costau dylunio/galluogi ar gyfer
Prosiect yr Wyddfa (Atodiad 5 ac Adran 6 o’r adroddiad)
- Dirprwyo’r hawl i’r Swyddog Adran 151
mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau i fwrw ymlaen gyda
Prosiect Wyddfa gydag Awdurdodau Gweinyddu PPC yn unol ag amserlen y
Llywodraeth o fewn y gyllideb gymeradwy.
- Dirprwyo cymeradwyaeth derfynol y
dogfennaeth ffurfiol derfynol sy’n ofynnol ar gyfer gweithredu’r Cwmni
Rheoli Buddsoddi, a ddisgrifir fel ‘Mynd yn Fyw’ fel yr amlinellir yn
Adran 7 o’r adroddiad, i’r Pwyllgor Pensiynau i roi effaith i Achos Busnes
PPC Addas i’r Dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 03/07/2025
Dyddiad y penderfyniad: 03/07/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/07/2025 - Y Cyngor
Dogfennau Cefnogol: