Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Wrth ystyried
a) bod Amaeth
yn un o brif ddiwydiannau Cymru, a bod canran uchel o economi Gwynedd yn
gysylltiedig â’r byd amaethyddiaeth.
b) bod
sefydlogrwydd y fferm deuluol yn gyfraniad hollbwysig ac amhrisiadwy at gadw’r
iaith Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg
c) bod y
diwydiant amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu’n o lew at
stoc bwyd y ‘Deyrnas Unedig’ mewn oes o ansicrwydd cynyddol, ond bod y stoc yn
isel
Noda’r Cyngor, gyda thristwch mai bygythiad
yw’r Ddeddf Treth Etifeddiaeth i’r uned ffermio draddodiadol, i economi y wlad
ac i gefn gwlad Cymru, yn enwedig i’r ardaloedd Cymraeg.
(Mae’n hysbys bod o leiaf dau ffermwr wedi
cyflawni hunanladdiad ers pasio’r Ddeddf a bod teuluoedd a gweithwyr a busnesau
lleol cysylltiedig yn wynebu chwalfa os daw y Ddeddf i rym yn 2026.)
Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i bwyso ar
Lywodraeth Cymru i weithredu trwy:-
i)
bwyso ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod bod y diwydiant ffermio yn hollbwysig i strategaeth
diogelwch y DU, ac i eithrio ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd o’r dreth
newydd pan ddaw i rym.
erfyn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil i asesu effaith y Ddeddf ar economi Cymru a chymunedau Cymraeg; hefyd i weithredu mesurau lliniarol digonol er mwyn diogelu’r diwydiant amaeth sydd mor allweddol i ddyfodol cymunedau cefn gwlad ein gwlad.
Dyddiad cyhoeddi: 03/07/2025
Dyddiad y penderfyniad: 03/07/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/07/2025 - Y Cyngor