Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Lles Economaidd CBC y Gogledd
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNIAD
1. Cytuno i'r
cais am newid i rannu'r gwaith
o gyflawni prosiect Cyn
Ysbyty Gogledd Cymru yn ddau
gam gyda Chyngor Sir Ddinbych yn gweithredu
fel Noddwr y Prosiect ar gyfer
Cam 1 Gwaith Dymchwel ac Adfer
Hanfodol a Mesurau Lliniaru Ecolegol, a Jones Bros yn parhau i
fod yn Noddwr
y Prosiect ar gyfer Cam 2. (Y gwaith dymchwel ac adfer sy'n weddill, adeiladu
unedau masnachol ac addasu Adeilad Rhestredig y Prif Ysbyty yn fflatiau a galluogi
datblygu 300 o gartrefi.
2. Cytuno i
ryddhau £2m cychwynnol o gyllid ar gyfer
Cam 1 i Gyngor Sir Ddinbych gyda'r opsiwn o ddarparu £1m arall wedi'i ddirprwyo
i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro gan ddal sylw
at y materion yn rhan 4.3 o’r adroddiad
3. Nodi y bydd cwblhau
Cam 1 yn galluogi'r prosiect i weld yn llawn y costau
sy'n gysylltiedig â Cham 2
ac y gallai hyn arwain at gais am gyllid pellach ond byddai hyn
yn destun penderfyniad ar wahân yn y dyfodol
os oes angen.
4. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio
mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, Is-Gadeirydd, Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro
i gytuno ac ymrwymo i gytundeb
cyllido gyda Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer Cam 1 yn amodol ar
gwblhau'r asesiad Rheoli Cymorthdal iadau.
Dyddiad cyhoeddi: 03/10/2025
Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2025
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/10/2025 - Is-bwyllgor Lles Economaidd CBC y Gogledd