Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cymeradwyo’r Strwythur
Staffio ar gyfer y Swyddfa Rhaglen, a dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen
mewn ymgynghoriad gyda Phrif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid
Statudol i addasu’r strwythur fel yr angen o fewn y gyllideb.
Cymeradwyo’r dyddiadau
cychwyn ar gyfer staff o fewn y strwythur staffio, a penodi i’r Swyddfa Rhaglen
cyn y Cytundeb Terfynol, lle mae’r swyddi yn fforddiadwy o fewn y gyllideb
graidd a chyllideb ESF (fel y’i rhestrwyd yn rhan 4.2.5 o’r adroddiad).
Penderfynwyd, yn amodol ar
y materion sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen
i greu y swyddi ac ymgymryd â’r broses benodi yn unol â threfniadau a
pholisïau’r Corff Lletya.
Penderfynwyd dirprwyo’r
hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad a Prif Weithredwr y Corff
Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig
ar 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer cyfnod Gorffennaf 2018 at Mehefin
2023. Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd
Uchelgais yn cyfrannu 50% o arian cyfatebol, yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu
prosiectau a chyllideb craidd.
Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2020
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Dogfennau Cefnogol: