Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Cytunwyd:

  1. Fod Cynllun Lleol Cyngor Gwynedd am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2026 yn parhau fel ag yr oedd yn ystod 2025/26. Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:
    1. gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.
    2. Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.
    3. Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

 

  1. Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2026/27, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/12/2025

Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2025

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/12/2025 - Y Cyngor

Dogfennau Cefnogol: