Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Penderfynwyd
derbyn y sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol ynghyd a chytuno i:
- Cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020, a darparu
lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plennydd, Y Ffôr o 1 Medi 2020.
- Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol
â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)
2013.
- Cymeradwyo trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trawsnewidiol yn
unig, pryd bydd cludiant di-dâl i’r disgyblion hynny sydd wedi cofrestru
yn Ysgol Llanaelhaearn ar hyn o bryd, i Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr neu
Ysgol Chwilog yn benodol, os yn byw dros 2 filltir i’r ysgol a ddewisir,
neu yn derbyn cludiant am ddim oherwydd natur y ffordd yn unol â pholisi
cludiant cyfredol Cyngor Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 18/02/2020
Dyddiad y penderfyniad: 18/02/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/02/2020 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: