Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Gofyn bod Adroddiadau Blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys data am fesurau perfformiad gan gynnwys mesurau yng nghyswllt troseddu, a map sy’n amlygu lleoliad troseddau.
  3. Gofyn i dderbyn data a gwybodaeth bellach am y sesiynau ‘Peidiwch â Dwyn fy nyfodol’, cynhaliwyd gan RASASC Cymru (Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol).
  4. Gofyn am ddata am y nifer o sesiynau a’r nifer o unigolion sydd wedi cyflawni hyfforddiant VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol), a bod y data hwn yn cael ei gynnwys o fewn yr Adroddiad Blynyddol yn y dyfodol.
  5. Annog Cyngor Gwynedd i symud ymlaen i dderbyn achrediad ‘Cyngor Trawma Wybodus’.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2026

Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2026

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/03/2026 - Pwyllgor Craffu Cymunedau

Dogfennau Cefnogol: