Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

  • Awdurdodi Is-bwyllgor Lles Economaidd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i fonitro cyflwyno blwyddyn bontio’r Gronfa Twf Lleol (2026/27) ac i arwain y gwaith o baratoi ar gyfer trosglwyddo’r Gronfa i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol o 2027/28 ymlaen. 

 

  • Cymeradwywyd bwriad i gynnal y dull gweithredu a’r trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Ngogledd Cymru — gan gynnwys rôl Cyngor Gwynedd fel awdurdod lleol arweiniol — ar gyfer blwyddyn bontio’r Gronfa Twf Lleol yn 2026/27, a chyflwyno cynllun i’r perwyl hwn i Lywodraeth Cymru. 

 

  • Awdurdodi’r defnydd o’r cyllid a ddarperir i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol i baratoi ar gyfer cyflwyno’r Gronfa Twf Lleol y tu hwnt i 2026/27, gan weithio ar y cyd gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i gynhyrchu cynigion y rhanbarth. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2026

Dyddiad y penderfyniad: 20/03/2026

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/03/2026 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd

Dogfennau Cefnogol: