Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa ariannol derfynol
adrannau’r Cyngor am 2025/26:

Gan nodi bod gwariant sylweddol uwchlaw’r
gyllideb gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd a’r
Adran Amgylchedd yn 2025/26 (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwywyd y
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) –
· Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn
cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen
gan yr Adran i £100k (Gweler colofn B yn y tabl uchod).
· Cadarnhau'r cymorth ariannol o £269k uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach (Gweler
colofn C yn y tabl uchod).
· Cyllido’r gorwariant o £1.256 miliwn yn y
maes Gwastraff trwy ddefnyddio £786k o'r Gronfa Adennill Enillion Cyfrannol
Parc Adfer a £470k o'r Gronfa Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd
pecynnu (Gweler colofn CH yn y tabl uchod).
· Dyrannu bid ariannol o hyd at £800k i’r Adran
Tai ac Eiddo i gyllido’r pwysau ar y gwasanaeth llety argyfwng yn 2026/27.
· Ar gyllidebau Corfforaethol:
- defnyddio (£2.8 miliwn) o’r tanwariant ar gyllidebau corfforaethol i
gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2025/26.
- y gweddill o (£3.174 miliwn) sydd ei angen i gyllido’r holl ofynion i
gael ei gyllido o Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.
– y tanwariant o (£914k) ar Bremiwm Treth Cyngor yn cael ei drosglwyddo
i gronfa Premiwm Treth Cyngor gyda'i ddefnydd i'w benderfynu gan y Cabinet.
Cymeradwywyd y symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan)
Wariant Addasedig” yng ngholofn D uchod ac yng ngholofn D Atodiad 1).
Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o'r Gronfa Cefnogi
Strategaeth Ariannol y Cyngor fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad
o’r cronfeydd:
- £6.6 miliwn yn cael ei symud i falansau cyffredinol y Cyngor
- £1.5 miliwn yn cael ei symud i gronfa Diogelu
Adeiladau.
Dyddiad cyhoeddi: 19/05/2026
Dyddiad y penderfyniad: 19/05/2026
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/05/2026 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: