Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Penderfynwyd
i:
- Gefnogi’r egwyddor o ddatblygu prosiect cyfalaf buddsoddi i arbed
gwerth hyd at uchafswm o £779,314 yn Neuadd Dwyfor er mwyn gwella’r
ddarpariaeth a’r cyfleusterau, gwella’r cyfleon i godi incwm a sicrhau
diogelwch defnyddiwr;
- Cydnabod y risg o golled incwm o ganlyniad i gau’r Neuadd yn ystod
y gwaith adeiladu os bwrir ymlaen;
- Cefnogi dyrannu cyfraniad un-tro o gyllideb Trawsnewid y Cyngor ar
gyfer buddsoddiad – sef hyd at £570,000 (cyfalaf);
- Cefnogi ail-broffilio arbedion fel a gytunwyd yn wreiddiol i’r
proffil a amlinellir yn nhabl 8.1;
- Cefnogi cyflwyno ceisiadau i gyrff allanol i geisio lleihau
cyfraniad y Cyngor ac uchafu gwerth buddsoddiad y Cyngor;
- Cefnogi adnabod a chydweithio gyda phartneriaethau a sefydliadau
lleol all gefnogi’r Neuadd i gyrraedd y targed arbediad llawn o £100,000
yn y tymor canolig yn dilyn y buddsoddiad – a hynny drwy osod her arnynt i
leihau’r bwlch ariannol a chynorthwyo’r Cyngor i wneud arbediad parhaol o
£100,000 yn y gyllideb erbyn 2025.
Dyddiad cyhoeddi: 10/03/2020
Dyddiad y penderfyniad: 10/03/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: