Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd:
Mabwysiadu Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd
2025–2030 fel y ddogfen strategol sy’n gosod cyfeiriad, gweledigaeth a
blaenoriaethau’r Cyngor ym maes gwastraff ac ailgylchu dros y pum mlynedd
nesaf.
Cymeradwyo’r egwyddor o ddefnyddio Cyllid Cyfrifoldeb
Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) fel y prif ffynhonnell ariannu i gefnogi a
galluogi gweithredu blaenoriaethau’r Strategaeth, gan gynnwys cynlluniau i
gynyddu ailgylchu, gwella gwasanaethau, cynnal seilwaith presennol a buddsoddi
mewn isadeiledd y dyfodol.
Cymeradwyo’r cyfeiriad strategol ar gyfer defnyddio cyllid
EPR i:
·
reoli risgiau ariannol uniongyrchol y gwasanaeth drwy greu darpariaeth ariannol
“rhag ofn”, megis delio gyda gorwariant ar ddarparu gwasanaethau lle nad oes
dull amgen o’i gyfarch, lleihau’r risg o ddirwyon am fethu â chyrraedd targedau
ailgylchu a pharatoi ar gyfer costau’r Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS).
·
darparu sail ariannol gadarn ar gyfer gweithredu’r cynlluniau a nodir yn y
Strategaeth, gan gynnwys y camau i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a’r
buddsoddiadau tymor byr sydd eu hangen ar gyfer uwchraddio.
·
sefydlu Cronfa Cydariannu i gefnogi datblygu sylweddol yn safleoedd y dyfodol
yng Nghaernarfon a Harlech.
Nodi y bydd penderfyniadau pellach yn ofynnol ar rai
elfennau gweithredol unigol o’r Strategaeth a’r defnydd o’r cyllid EPR , ond
bod mabwysiadu’r Strategaeth a chymeradwyo cyfeiriad defnydd EPR yn darparu’r
fframwaith polisi a’r sail ariannol i symud ymlaen gyda’r rhaglen waith.
Nodi y bydd angen i’r Cyngor ystyried pob ffynhonnell
ariannol posib wrth fynd ati i osod cyllideb refeniw 2027/28 a’r blynyddoedd
dilynol ac na ellir diystyru y posibilrwydd o orfod ail ymweld â’r
penderfyniadau uchod pe byddai angen dargyfeirio elfen o’r cyllid EPR ar gyfer
gallu gosod cyllideb hafal.
Dyddiad cyhoeddi: 07/07/2026
Dyddiad y penderfyniad: 07/07/2026
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/07/2026 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: