Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Datganwyd parodrwydd y Cabinet i ariannu ymyrraeth yn unol â’r adroddiad a
chymorth ymarferol er mwyn cynnal darpariaeth y cartref gofal dros y cyfnod
heriol presennol er gwrachod lles y preswylwyr.
Nodwyd fod y penderfyniad uchod yn ddarostyngedig i gyrraedd cytundeb
priodol gyda Chymdeithas Dai a Bwrdd
Iechyd Betsi Cadwaladr ar amodau'r ymyrraeth a chyfraniadau.
Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant
mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Cyllid a
Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno telerau.
Bod y gwaith o baratoi achos busnes yn unol â phenderfyniad 18fed
Chwefror 2020 yn parhau ac yn cael ei
gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2020
Dyddiad y penderfyniad: 26/05/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/05/2020 - Y Cabinet