Manylion y penderfyniad
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Penderfynwyd
comisiynu’r Bwrdd Adfywio a’r Bwrdd Cefnogi Pobl i ystyried y canlynol -
¾ Y meysydd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt yn nhermau'r hyn sy’n
bwysig i bobl Gwynedd yn y meysydd hynny y mae’r byrddau yn gyfrifol amdanynt,
gan gadw golwg ar y cyfeiriad yr oedd y byrddau eisoes yn ei ystyried cyn i’r
argyfwng godi;
¾ pa weithrediadau sydd angen eu cyflawni yn y meysydd hynny yn y
tymor byr a’r tymor canolig ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag argymhellion,
¾ Yn unol â Chynllun Cydraddoldeb y Cyngor ein bod yn rhoi
ystyriaeth i anghenion grwpiau nodedig wrth wneud penderfyniadau yn y maes
adfer.
Comisiynu’r
Grŵp Rheoli i ystyried pa faterion corfforaethol sydd angen ystyriaeth yn
y tymor byr a’r tymor canolig wrth i ni symud ymlaen at y “normal newydd” ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet os cyfyd yr
angen am benderfyniad fel yn berthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2020
Dyddiad y penderfyniad: 26/05/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/05/2020 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: