Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
- Derbyn yr adroddiad.
- Argymell i’r Aelod Cabinet i ychwanegu ‘gofal a chefnogaeth’ i
deitl yr adroddiad i sicrhau gwell eglurder.
- Rhoi mwy o sylw yn yr adroddiad i broblemau efo cyffuriau, yr angen
am becynnau gofal i ofalwyr ifanc a gofalwyr di-dâl, gan roi sylw penodol
i rieni sydd yn gofalu am eu plant, a gofal lliniarol dros y penwythnos,
safon gofal mewn cartrefi gofal preifat, ac anawsterau cael apwyntiadau
iechyd.
- Gofyn a oes modd i flaen graffu'r cynllun gweithredu ardal pan fydd
hwnnw yn barod a chael sicrwydd bod bob adran y Cyngor yn cyfrannu at
hwnnw yn ogystal â’r partneriaid perthnasol eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2026
Dyddiad y penderfyniad: 17/09/2026
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/09/2026 - Pwyllgor Craffu Gofal
Dogfennau Cefnogol: