Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

 

Mae’r Cyngor hwn:

 

Yn nodi’r cynnydd yn nifer y cartrefi modur a faniau gwersylla sy’n defnyddio lleoliadau ar draws Gwynedd i barcio ac aros dros nos, gan gynnwys cilfannau, meysydd parcio, ardaloedd arfordirol a mannau prydferth;

 

Yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall ymwelwyr sy’n defnyddio cartrefi modur a faniau gwersylla ei wneud i economi Gwynedd, ac yn croesawu ymwelwyr sy’n defnyddio cyfleusterau priodol ac sy’n parchu ein cymunedau a’n hamgylchedd;

 

Yn mynegi pryder, fodd bynnag, ynghylch achosion lle mae cerbydau’n aros am gyfnodau estynedig mewn mannau nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer hynny, gan feddiannu mannau parcio, achosi problemau i drigolion a defnyddwyr eraill, a rhoi pwysau ar rai o ardaloedd mwyaf sensitif a phoblogaidd y sir;

 

Yn nodi bod y Cyngor eisoes wedi sefydlu safleoedd Arosfannau pwrpasol ar gyfer cartrefi modur, ond bod problemau parcio ac aros dros nos amhriodol yn parhau mewn nifer o leoliadau;

 

Yn cydnabod bod cyfyngiadau ar gapasiti ac adnoddau dynol y Cyngor yn gallu ei gwneud yn anodd gweithredu ym mhob lleoliad ar yr un pryd, ond nid yw’n derbyn y dylai diffyg capasiti i weithredu ym mhobman olygu na ellir mynd i’r afael â phroblemau amlwg a pharhaus mewn lleoliadau penodol.

 

Felly, mae’r Cyngor yn galw ar y Cabinet a’r Aelod Cabinet perthnasol i fynd i’r afael â’r problemau sy’n deillio o barcio ac aros dros nos amhriodol gan gartrefi modur a faniau gwersylla ar draws Gwynedd, ac i ystyried pa gamau y gellir eu cymryd i ddod â gwell rheolaeth ar y sefyllfa.

 

Dyddiad cyhoeddi: 24/09/2026

Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2026

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2026 - Y Cyngor