Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

·       Gofyn i’r aelod cabinet gysylltu gyda Llywodraeth Cymru i nodi pryder a siom nad yw gweithdrefnau a chanllawiau cenedlaethol newydd ar gyfer Rhan 5 yn adlewyrchu nac yn mynd i'r afael yn llawn â'r newidiadau argymhellwyd yn adroddiad CTED ac argymell eu bod yn cael eu diwygio.

 

·       Ychwanegu ymateb i ymgynghoriad ad-drefnu llywodraethu ysgolion Llywodraeth Cymru i flaen raglen waith y pwyllgor pan yn amserol.

 

·       Yn amodol ar dderbyn sêl bendith ac adnoddau gan y Fforwm Craffu a sicrwydd nad yw’n amharu na dyblygu gwaith Llywodraeth Cymru ar y pwnc, datgan cefnogaeth i sefydlu grŵp tasg a gorffen i edrych ar y drefn llywodraethu ysgolion presennol, er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i ymateb i’r ymgynghoriad arfaethedig ar ad-drefnu llywodraethu ysgolion yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth.   

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2026

Dyddiad y penderfyniad: 08/10/2026

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/10/2026 - Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi

Dogfennau Cefnogol: