Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

 

1.1   Nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r cyngor am 2019/20.

 

1.2   Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad sef:

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

0

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

(96)

Economi a chymuned

67

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(11)

Tai ac Eiddo

83

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(50)

Cyllid

(70)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(100)

 

1.3   Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £3,259k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2020/21.

·         Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £447k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i 2020/21 i £100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2020/21.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£70k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2019/20.

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, defnyddio (£1,012k) o'r tanwariant net i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2019/20.

 

 

1.4   Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol:

·         fel amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, cynaeafu (£801k) o gronfeydd a (£24k) o ddarpariaethau gan ddefnyddio’r cyfanswm o (£825k) i gynorthwyo’r adrannau sydd yn gorwario yn 2019/20.

·         Cyllido gweddill y gorwariant adrannol o (£1,799k) o Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/06/2020

Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2020 - Y Cabinet

Dogfennau Cefnogol: