Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd ar
addasiadau i’r ffioedd isod o ganlyniad i argyfwng COVID19, er mwyn i'r
adrannau weithredu yn unol â hyn.
Ffioedd |
Penderfyniad |
Gwastraff
Masnachol |
Gofyn am daliad
cymesur â’r gwasanaeth sydd yn cael ei dderbyn gan ofyn i’r Adran anfonebu
pan mae casgliadau yn cychwyn. |
Amlosgfa a
Mynwentydd |
Ffioedd i barhau
am y tro ar lefelau 2019/20 |
Prydau Ysgolion
Cynradd |
Arian i symud
gyda’r disgybl, a cynnig ad-daliad nad yw’n bosib. |
Clwb Gofal cyn
Ysgol |
Os yw’r plant yn
symud ysgol, cynnig ad-daliad. |
Cludiant ôl-16 -
Tocyn Teithio 16+ |
Ad-daliad i’w
wneud o ffioedd am dymor yr haf a threfniadau 29/06/2020 - 27/07/2020 i’w
ystyried eto. |
Renti o logi
swyddfeydd / ystafelloedd, Unedau Diwydiannol a Intec a Mentec |
Bwrw ymlaen i
anfonebu’n llawn am y rhenti, ond rhoi cyfle i fusnesau unigol os yn wynebu
caledi i gysylltu â’r Cyngor i drafod eu sefyllfa benodol. |
Rhenti - hurio
gofod mewn Llyfrgelloedd, defnyddio Barc Padarn, Unedau Glynllifon |
Bwrw ymlaen i
anfonebu’n llawn am y rhenti, ond rhoi cyfle i fusnesau unigol os yn wynebu
caledi i gysylltu â’r Cyngor i drafod eu sefyllfa benodol. |
Ffioedd Angori
Hafan Pwllheli, Harbyrau a Doc Fictoria |
Lle mae mynediad
at gychod a chyfleusterau harbwr wedi ei gyfyngu, gostwng y ffioedd i’r ‘ffi
gaeafu’, sydd gyfystyr a 70% o’r ffi lawn, er mwyn cadw cwsmeriaid. |
Dyddiad cyhoeddi: 16/06/2020
Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2020 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: