Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
(a) Nodi statws y perthnasau a’r
sianeli ymgysylltu cyfredol gyda’r Sector Preifat.
(b) Nodi bwriad Cyngor Busnes
Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl fel partner i Fwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru.
(c) Nodi Cylch Gorchwyl drafft a
gyflwynir gan Gadeirydd dros dro’r Grŵp Cyflawni Busnes a gofyn am
adroddiad pellach gan y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Swyddog
Monitro’r Awdurdod, ar y diwygiadau arfaethedig i gylch gorchwyl y Grŵp
Cyflawni Busnes a fabwysiedir gan y Bwrdd Uchelgais.
(ch) Cadarnhau’r camau a’r
gweithredoedd nesaf arfaethedig i wella ymgysylltu a dealltwriaeth y sector
preifat.
(d) Gohebu â Gweinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i weld oes modd i Lywodraeth Cymru wneud cyfraniad
i gefnogi Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a chyflwyno adroddiad
llawer mwy manwl ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r
cyfarfod nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 31/07/2020
Dyddiad y penderfyniad: 31/07/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 31/07/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Dogfennau Cefnogol: