Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
a)
Cymeradwyo’r strategaeth mewn egwyddor
b) Ein
bod yn gofyn i Lywodraethwyr pob ysgol yn unigol i nodi a fyddent yn fodlon
tanysgrifio’r gost adnewyddu dyfeisiadau o’u cyllidebau/ cronfeydd ysgolion ac
os ddim i nodi pam;
c) Bod
y gwasanaeth yn agor trafodaethau ar fyrder gyda rhanddeiliad perthnasol i
fanylu mwy ar sut y bwriedir cynnal y gyfundrefn a sut y bwriedir talu amdano
gyda golwg ar gynnwys hynny yn y strategaeth ;
d) Gan
gymryd nad ydym am gael yr holl arian ar gyfer cyflawni’r strategaeth yn Medi,
bod y gwasanaeth yn ystyried ac yn gosod allan beth fyddai’r cynllun ar gyfer
mewnosod y strategaeth yn raddol;
e) Bod
adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 8 Medi yn
nodi lle dan ni wedi cyrraedd gyda hyn oll, gyda golwg ar i ni unai
gymeradwyo’r Strategaeth yn derfynol neu i gymeradwyo gosod yr archeb gyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 04/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 04/08/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/08/2020 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: