Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
¾ Derbyniwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau
arbedion 2020/21, 2019/20 a blynyddoedd blaenorol.
¾
Cymeradwywyd y cynlluniau amgen a fanylir yn
Rhan 6 ac Atodiad 5 i ddisodli cynlluniau hanesyddol nad ydynt yn gwireddu.
¾
Nodwyd bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at
lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth
ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r
argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio
perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng.
¾
Cefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth
Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod
sut bydd modd ail afael yn y drefn o gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd
modd i’r Cyngor symud ymlaen efo cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr
argyfwng.
Dyddiad cyhoeddi: 13/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2020 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: