Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
¾
Cymeradwywyd
cyflwyno'r Achos Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i
Lywodraethau'r DU a Chymru am Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru.
¾
Cytundwyd
bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol
sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar
gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda
Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾
Cytunwyd
bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb
Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn
“Atodiad 1 o Gytundeb Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r
Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a
Chymru.
¾
Cymeradwywyd
y dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i
hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner
blynyddol cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd
ac atodol sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau
5.5 - 5.7 o’r adroddiad).
¾
Cytunwyd
bod y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y
Bwrdd Uchelgais, Swyddog Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff
Atebol, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau
fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.
¾
Cymeradwywyd
ailenwi'r Swyddfa Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau
ac o ganlyniad i hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr
Portffolio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 23/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/10/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Dogfennau Cefnogol: