Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i wrthod y cais ar
sail y rhesymau isod:-
Rhesymau:
• Mae’r
bwriad yn golygu creu safle llety gwersylla amgen sefydlog newydd oddi fewn i
Ardal Tirwedd Arbennig. Nid yw Polisi TWR3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn, 2017 yn caniatáu datblygu safleoedd llety gwersylla amgen
sefydlog newydd oddi fewn i Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Mae’r bwriad, felly, yn
groes i ofynion Polisi TWR3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn,
2017.
• Mae’r
bwriad yn groes i faen prawf rhif 2, 4 a 7 o Bolisi TWR5 Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ar y sail byddai’r bwriad yn creu gormodedd o
ardaloedd o leiniau caled, nid oes tystiolaeth wedi ei dderbyn pam fod angen
cyfleusterau ychwanegol a bydd y llain pebyll yn cael ei ddefnyddio am 12 mis y
flwyddyn. Nid yw’r bwriad, felly, yn cydymffurfio gyda holl ofynion Polisi TWR5
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017.
• Mae’r
bwriad yn golygu creu safle llety gwersylla amgen newydd yng nghefn gwlad
agored ac ymhell tu allan i unrhyw ffin ddatblygu. Yn ychwanegol, ni ystyrir fod y bwriad yn
gwneud defnydd o safle addas yng nghefn gwlad gan ei fod yn safle anghynaladwy
ble byddai’r mwyafrif o’r ymwelwyr yn ddibynnol ar ddefnyddio eu cerbydau
preifat. Nid yw’r bwriad, felly, yn cydymffurfio gyda holl ofynion Polisi TWR5,
PS4, PS5 a PS14 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd
a’r cyngor a gynhwysir yng Nghanllaw
Cynllunio Atodol:
Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid 2019 a Pholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad
10, 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2020
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: