Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu
oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob
pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos.
Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau
statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig
ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen
penderfyniadau ychwanegol.
Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 16/02/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: