Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
(a) Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad
y pwyllgor o’i berfformiad yn 2019/20, gan nodi bod amgylchiadau y tu allan i
reolaeth y Pwyllgor Safonau wedi golygu na fu’n bosib’ gweithredu sawl cam y
tro hwn:-
SWYDDOGAETH
|
ASESIAD
(1/2/3/4)
|
Tystiolaeth
|
Camau pellach
|
Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau
|
1
|
Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm
Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.
Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn
Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar drefniadau Fframwaith
Foesegol yng nghyd-destun cyd-weithio
|
Parhau i fynychu a chefnogi
|
Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad
|
2
|
Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad
mewn cyfarfodydd ac ar sail un i aelodau.
|
Adfer camau hyfforddiant pan mae adnoddau yn caniatáu
|
Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu
ddiwygio’r Cod Ymddygiad
|
Dim angen gweithredu
|
Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.
|
|
Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad
|
2
|
Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn
aelodau
Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel
Dyfarnu Cymru
|
Parhau i fonitro ac ystyried a hyrwyddo dulliau amgen o
dderbyn gwybodaeth
Derbyn adroddiadau rheolaidd o Lyfr Achosion Cod
Ymddygiad yr Ombwdsmon.
Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a
lletygarwch.
|
Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar
faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad
|
3
|
|
Angen edrych ar ddarparu hyfforddiant newydd.
|
Rhoi goddefebau i aelodau
|
1
|
Ceisiadau wedi eu hystyried dan y drefn newydd.
|
|
Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw
adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon
|
Dim angen gweithredu
|
Ni gododd angen am wrandawiadau yn ystod y flwyddyn
|
|
Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau
a gynorthwyodd gydag ymchwiliad
|
Dim angen gweithredu
|
Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath
|
|
Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â
chynghorau cymuned
|
3
|
Swyddog Monitro a’i dîm
yn darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.
Mabwysiadu peilot ar gyfer hyfforddi Cod
Ymddygiad. Wedi cynnwys sesiwn i
beilota cynnwys y cwrs.
|
Cwrs peilot wedi ei gynnal gyda Chyngor Tref Tywyn
gydag adborth cadarnhaol. Angen
ystyried adfer y rhaglen ar sail rithiol pan mae adnoddau yn caniatáu.
|
(b) Cymeradwyo’r
rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2021/22:-
Mehefin, 2021
Adroddiad Blynyddol
Honiadau yn erbyn Aelodau
Llyfr Achosion yr Ombwdsmon
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Hyfforddiant yn gyffredinol
Tachwedd, 2021
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch
Cofrestr Datgan Buddiant
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon
Honiadau yn erbyn Aelodau
Gwrthdrawiadau Buddiannau a phartneriaid y tu allan
i Lywodraeth Leol
Paratoi ar gyfer Etholiad Mai 2022 o safbwynt y Cod
Ymddygiad
Chwefror, 2022
Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu
Honiadau yn erbyn Aelodau
Dyddiad cyhoeddi: 22/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 22/02/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/02/2021 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Cefnogol: