Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyngor
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Mabwysiadu’r
cynnig, sef bod y Cyngor hwn:
a) yn credu bod y system fudd-daliadau
gyfredol yn methu ein dinasyddion ac yn achosi caledi i lawer o gymunedau yng
Ngwynedd;
b) yn nodi'r cysyniad o Incwm
Sylfaenol Cyffredinol (UBI) lle mae dinasyddion yn derbyn swm heb fod yn
seiliedig ar brofion modd gan y wladwriaeth i dalu costau byw sylfaenol, a
delir i'r holl ddinasyddion yn unigol, waeth beth yw eu statws cyflogaeth, eu
cyfoeth, neu statws priodasol;
c) yn credu bod angen profi
UBI, gan fod gan UBI y potensial i fynd i'r afael â heriau allweddol megis
adferiad ôl-bandemig, anghydraddoldeb, tlodi, cyflogaeth ansicr, a cholli
cymuned trwy:
i) rhoi gweithlu mwy hyblyg i gyflogwyr wrth
roi mwy o ryddid i weithwyr newid eu swydd;
ii) gwerthfawrogi gwaith di-dâl, megis gofalu
am aelodau'r teulu a gwaith gwirfoddol;
iii) cael gwared ar effeithiau negyddol
sancsiynau budd-daliadau ac amodoldeb;
iv) rhoi mwy o adnoddau cyfartal i bobl yn y
teulu, y gweithle a'r gymdeithas.
ch) yn nodi gwaith Rhwydwaith
Lab UBI wrth ddatblygu cynigion i beilota profi UBI;
e) yn credu na ddylid mesur
llwyddiant peilot UBI yn unig yn ôl yr effaith ar y nifer sy'n manteisio ar
waith â thâl, ond hefyd yr effaith ar gymunedau a'r hyn y mae'r bobl ynddynt yn
ei wneud, sut maen nhw'n teimlo, a sut maen nhw'n uniaethu ag eraill a’r amgylchedd
o'u cwmpas;
f) yn credu bod Gwynedd mewn
sefyllfa ddelfrydol i dreialu UBI;
g) yn gofyn i’r Cabinet
ymchwilio i’r ymrwymiad fyddai ei angen ac ystyried a ddylid gwirfoddoli i
gydweithio gyda chyrff megis UBI Lab Cymru;
h) yn penderfynu anfon
copi o'r Cynnig hwn at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, y
Canghellor, arweinydd y Blaid yn y Llywodraeth, eu cymheiriaid ym mhob plaid
wleidyddol wrthblaid yn y Senedd, Prif Weinidog Cymru ac at holl ASau Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 04/03/2021
Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/03/2021 - Y Cyngor